1 Samuel 11

Saul yn trechu byddin Ammon

1Dyma Nachash, brenin Ammon, yn arwain ei fyddin i ymosod ar dref Jabesh yn Gilead
11:1 Jabesh yn Gilead Tref oedd i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen, tua 20 milltir i'r de o Lyn Galilea. gw. hefyd Barnwyr 21
. Dyma ddynion Jabesh yn dweud wrth Nachash, “Gwna gytundeb â ni, a down ni'n weision i ti.”
2Dyma Nachash yn ateb, “Gwna i gytundeb â chi, ond bydd rhaid tynnu allan llygad dde pob un ohonoch chi. Fel yna bydda i yn codi cywilydd ar Israel gyfan.” 3Dyma arweinwyr Jabesh yn dweud wrtho, “Gad lonydd i ni am wythnos, i ni gael anfon negeswyr i bobman yn Israel. Os fydd neb yn barod i ddod i'n hachub ni, byddwn ni'n ildio i ti.”

4Pan ddaeth y negeswyr i Gibea (lle roedd Saul yn byw) a dweud beth oedd yn digwydd dyma'r bobl i gyd yn dechrau crïo'n uchel. 5Ar y pryd roedd Saul ar ei ffordd adre o'r caeau gyda'i ychen. “Be sy'n bod?” meddai. “Pam mae pawb yn crïo?” A dyma nhw'n dweud am neges pobl Jabesh wrtho. 6Pan glywodd Saul hyn, dyma Ysbryd Duw yn dod arno'n rymus. Roedd wedi gwylltio'n lân. 7Dyma fe'n lladd pâr o ychen a'u torri nhw'n ddarnau mân, ac anfon negeswyr gyda'r darnau i bob ardal yn Israel. Roedden nhw i fod i gyhoeddi: “Pwy bynnag sy'n gwrthod cefnogi Saul a Samuel a dod allan i ymladd, dyma fydd yn digwydd i'w ychen e!” Roedd yr Arglwydd wedi codi ofn ar bawb, felly dyma nhw'n dod allan fel un dyn. 8Pan wnaeth Saul eu cyfri nhw yn Besec, roedd yna 300,000 o ddynion o Israel a 30,000 o Jwda.

9Dyma nhw'n dweud wrth y negeswyr oedd wedi dod o Jabesh, “Dwedwch wrth bobl Jabesh yn Gilead, ‘Erbyn canol dydd fory, byddwch wedi'ch achub.’” Pan aeth y negeswyr a dweud hyn wrth bobl Jabesh, roedden nhw wrth eu boddau. 10Felly dyma nhw'n dweud wrth Nachash, “Yfory byddwn ni'n dod allan atoch chi, a cewch wneud fel y mynnoch hefo ni.”

11Y noson honno
11:11 y noson honno Hebraeg, “y diwrnod wedyn”. Roedd diwrnod newydd yn dechrau pan oedd yr haul yn machlud, a sylwer fod yr ymosodiad wedi digwydd cyn iddi wawrio.
dyma Saul yn rhannu'r dynion yn dair mintai. Dyma nhw'n mynd i mewn i wersyll byddin Ammon cyn iddi wawrio, a buon nhw'n taro byddin Ammon tan ganol dydd. Roedd y rhai oedd yn dal yn fyw ar chwâl, pob un ohonyn nhw ar ei ben ei hun.

12Yna dyma'r bobl yn gofyn i Samuel, “Ble mae'r rhai oedd yn dweud, ‘Fydd Saul yn frenin arnon ni?’ Dewch â nhw yma. Maen nhw'n haeddu marw!” 13Ond dyma Saul yn dweud, “Does neb i gael ei ladd heddiw. Mae'n ddiwrnod pan mae'r Arglwydd wedi rhoi buddugoliaeth i Israel!”

14“Dewch,” meddai Samuel, “gadewch i ni fynd i Gilgal, a sefydlu'r frenhiniaeth yno eto.” 15Felly dyma'r bobl i gyd yn mynd i Gilgal a gwneud Saul yn frenin yno o flaen yr Arglwydd. Yna dyma nhw'n cyflwyno offrymau i gydnabod daioni'r Arglwydd. Roedd Saul a pobl Israel i gyd yn dathlu yno.

Copyright information for CYM